Mae rapiwr o Lundain sydd wedi cyrraedd rhif un yn y siartiau Prydeinig yn rhannu llwyfan gydag un o hoff gantorion y Cymry Cymraeg.

Bydd Example a’r Welsh Whisperer yn camu i’r un llwyfan ar nos Lun (Gorffennaf 22), a hynny mewn sied ar fferm sydd ar gyrion y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Yn ôl y Welsh Whisperer, dyma’r eildro iddo berfformio yn un o ddawnsfeydd Fferm Penmaenau, ac mae’n canmol trefnwyr y digwyddiad – sy’n ddi-Gymraeg – am gefnogi artistiaid Cymraeg yn flynyddol.

“Mae’r lein-yp yn Gymreigedd iawn, ac mae’r bandiau i gyd yn canu yn Gymraeg neu’n ddwyieithog eleni… heblaw Example,” meddai’r Welsh Whisperer, a fydd hefyd yn rhannu llwyfan gyda Gwilym, Alffa a Fleur De Lys.

“Mae Example ar y nos Lun, ac am ryw reswm maen nhw wedi rhoi fi oddi tano fe ar y bil. Bydd hwnna’n hileriws.”

Apelio at bob oed

Yn ogystal â pherfformio gyda’r hwyr, bydd y Welsh Whisperer, sy’n dathlu pum mlynedd o berfformio eleni, hefyd yn diddanu’r torfeydd ar faes y Sioe Fawr, a fydd yn cychwyn ddydd Llun ac yn para nes dydd Iau.

Mae’r cyfan yn rhan o’i daith yn hyrwyddo ei albwm diweddaraf, Cadw’r slac yn dynn.

Mae’n dweud bod perfformiadau’r dydd a pherfformiadau’r nos yn “wahanol iawn” i’w gilydd, er ei fod yn mwynhau apelio at gynulleidfaoedd o wahanol oed.

“Pan fydda i ar y band stand ddydd Iau, gyda bach o lwc, bydd yna lot o bobol yna, a phobol o bob oed,” meddai’r Welsh Whisperer.

“Ond yn wahanol i hwnna wedyn, mae sioeau fel Penmaenau yn hollol wyllt. Does dim plant yna, ac maen nhw’n nosweithiau hwyrach.”

Y gwerthwr merchandise

Yn ystod wythnos y Sioe, bydd y Welsh Whisperer hefyd yn datgelu capiau newydd y bydd pobol yn gallu eu prynu yn ystod ei berfformiadau.

Mae’n dweud bod gwerthu nwyddau bellach yn fusnes sy’n cyd-fynd â’r canu, ac mae’n cyfeirio at lwyddiant y sticeri ceir sy’n cynnwys y dywediad enwog ‘Ni’n Beilo Nawr’ arnyn nhw.

“Mae pobol wedi bod yn siarad dros y blynyddoedd diwethaf bod gwerthiant CDs wedi mynd lawr, achos bod pobol yn ffrydio cerddoriaeth ac yn y blaen, ac mae yna genhedlaeth yn awr o bobol ifanc sydd erioed wedi prynu CDs o’r blaen…” meddai’r Welsh Whisperer.

“Oherwydd hwnna, fel un rheswm, fe es i lawr trywydd arall a meddwl: ‘beth am werthu rhyw nwyddau a rhoi rhywbeth y gall pobol yn mynd ag e o’r gig a’i gadw?’.”