Bydd “mesurau traffig arbennig” yn eu lle yn ardal Llanrwst yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Mae trefnwyr y brifwyl hefyd yn cynghori pobol leol yn Nyffryn Conwy i “gynllunio ymlaen yn ofalus” yn ystod yr wythnos.
Mi fydd y mesurau arbennig yn cynnwys gwyriadau traffig yn Llanrwst a Betws-y-coed, troi rhai ffyrdd yn unffordd a chyfyngiadau parcio mewn rhai mannau.
Fe llai’r newidiadau effeithio ar drigolion Llanrwst, Betws-y-coed ac ardaloedd cyfagos gan ymestyn hyd teithiau arferol, meddai’r Eisteddfod Genedlaethol.
‘Cynlluniwch o flaen llaw’
“Rydyn ni’n ofnadwy o falch ac yn ddiolchgar i weld cymaint o frwdfrydedd yn Sir Conwy wrth i bobol edrych ymlaen at ddyfodiad yr Eisteddfod ddechrau Awst,” meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses.
“Hoffwn bwysleisio wrth bobol leol y bydd pethau’n wahanol i’r arfer yn ystod yr Eisteddfod ac mae’r mesurau arbennig a fydd mewn grym yn golygu y bydd angen i chi gynllunio’n benodol gyda’r trefniadau dros dro hyn mewn golwg.
“Fe allai teithiau gymryd mwy nag arfer, ond y bwriad yw sicrhau bod traffig yn dal i lifo yn ystod y cyfnod hynod brysur hwn.”