Mae Sesiwn Fawr Dolgellau – sy’n cael ei chynnal ers 1992 – yn digwydd y penwythnos yma ac mae disgwyl i hyd at 2,000 heidio i fwynhau cerddoriaeth yn y dref.
Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae’r holl docynnau ar gyfer gigs y nos wedi eu gwerthu, sef 500.
Mae arlwy am ddim ledled y dref yn ystod y dydd.
Rhwng heno a dydd Sul mae cyfle i weld bandiau fel Candelas, Geraint Jarman, Alffa a Gwilym Bowen Rhys.
“Gŵyl gerddoriaeth byd”
“Mae’n ŵyl gerddoriaeth byd, ddim jest gwerin, rydan ni yn mynd am bob genre – jest dim byd clasurol a dim roc trwm – dyna ydi’r model fel petai,” meddai Ywain Myfyr, un o’r trefnwyr, wrth golwg360.
“Mae yna lwyfan gwerin yma, mae yna lwyfan roc yn y Clwb Rygbi, rydan ni’n disgwyl torf dda yma heno cyn iddi chwyddo yfory.
“Ar y nos Wener eleni mae yna fand o’r enw Maroon Town o Lundain yn chwarae.
“Mae ganddyn nhw aelodau o bob man, maen nhw’n chwarae miwsig SKA a reggae a thipyn o rap – maen nhw’n fand ers y 1970au ac roedden nhw’n chwarae efo Selecter a The Specials.
“Nhw oedd y band y cyntaf i gymysgu SKA, reggae a rap… dw i’n meddwl!”
“Penwythnos pwysig”
“Dw i’n meddwl bod pawb yn y dref cydnabod ei fod o’n benwythnos pwysig –– yn enwedig y pubs a’r busnesau,” meddai Ywain Myfyr.
“Pobl yn dod yn yma o bob man ac yn dod yn ôl ar ôl cael blas ar y lle.
“Mae hi wedi bod lot mwy na hyn yn y gorffennol – fuodd y Super Furrys yma o’r blaen – falla gen ti ddim cweit gymaint o bethau yn digwydd yn bob man erbyn hyn…
“Ar un cyfnod roedd y prif lwyfan yn dal fyny at bum mil o bobol.
“Mae pob peth yn edrych yn oce a’r haul yn gwenu ar hyn o bryd,” meddai Ywain Myfyr.