Mae Cadeirydd S4C wedi bod yn brolio gwasanaeth Hansh wrth gylchgrawn Golwg.
Yr wythnos hon fe gyhoeddodd y Sianel Gymraeg ei Hadroddiad Blynyddol sy’n dangos bod 14% yn llai o bobol yng Nghymru yn gwylio rhaglenni Cymraeg ar deledu.
Ond mae’r niferoedd sy’n gwylio cynnyrch S4C ar y We yn fwy cadarnhaol.
Drwyddi draw bu 46.9 miliwn o sesiynau gwylio cynnyrch S4C ar-lein yn y 12 mis hyd at fis Mawrth eleni, sef cynnydd o 1.9 miliwn ar y flwyddyn flaenorol.
Ac mae pytiau Hansh, gyda chymeriadau megis ‘Gareth’ yr epa sinsir sy’n canu ‘Mŵfs fel Dafydd Iwan’, wedi dod yn fwyfwy poblogaidd.
Roedd nifer sesiynau gwylio’r gwasanaeth sy’n targedu pobol 16 i 34 oed wedi cynyddu o 4.9 miliwn y llynedd i 6.8 miliwn eleni.
Hansh “wedi cydio”
Yn ôl Cadeirydd Awdurdod S4C mae pytiau Hansh “wedi cydio yn nychymyg cynulleidfa iau”.
“Mae Hansh, i weld, wedi caniatáu i S4C gomisiynu deunydd reit wahanol i beth sy’n cael ei ddarlledu ar y teledu, ac mae hynny i weld yn mynd lawr yn dda gyda’r gynulleidfa darged,” meddai Huw Jones wrth gylchgrawn Golwg.
“Ac mae o’n un o’r atebion i’r her fawr mae S4C wedi wynebu, sef sut ydach chi’n darparu ar gyfer pob chwaeth ar un sianel yn unig.
“Wel yr ateb rŵan ydy, mae ganddo chi’r cyfle i greu sianelau digidol… mae Hansh yn ei wneud o ar gyfer y gynulleidfa iau – ond ddim jest pobol ifanc, ond pobol sydd yn ifanc eu hysbryd hefyd.
“Ac felly mae o yn arwydd o’r ffordd ymlaen o ran sut i wneud hyn.”
Mwy gan Huw Jones yng nghylchgrawn Golwg – ei hoff raglenni… a’i rybudd am sefyllfa ariannol S4C – “mi fydd yna heriau ariannol yn y dyfodol”.