Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu dymuniad i wahardd gwerthu cŵn a chathod bach trwy drydydd parti.

Daw ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus, a gafodd ei gynnal ym mis Chwefror eleni, ddangos “cefnogaeth aruthrol” i’r syniad.

Ond cyn cyflwyno’r gwaharddiad, bydd ymgynghoriad arall yn cael ei gynnal er mwyn edrych ar y manylion yn llawnach.

Bydd yr ymgynghoriad hwnnw hefyd yn ystyried cynlluniau eraill ar gyfer newid rheoliadau bridio er mwyn gwella amodau lles safleoedd bridio, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Gwella lles anifeiliaid

“Mae cŵn a chathod bach sy’n cael eu gwerthu trwy drydydd parti mewn mwy o berygl o ddal clefyd, o ddioddef oherwydd diffyg cyfle i gymdeithasoli ac i ymgynefino â phobol ac anifeiliaid eraill, ac o ddioddef y gofid o ddod ar draws amgylchiadau newydd ac anghyfarwydd sawl gwaith ar eu taith,” meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

“Dyna pam rydyn ni’n dod â’r gwaharddiad yn ei flaen ac rydyn ni’n falch bod y cyhoedd yn cytuno â ni.

“Rydyn ni wedi gwrando ar yr hyn sydd gan bobol i’w ddweud a byddwn yn gwahardd gwerthu cathod a chŵn bach trwy drydydd parti.”