Byddai economi’r Deyrnas Unedig yn profi dirwasgiad pe bai Brexit yn cael ei gyflawni heb gytundeb, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) hefyd yn rhybuddio y gallai benthyca gynyddu £30bn bob blwyddyn.

Aeth y corff ati i ystyried pa effaith y byddai Brexit heb gytundeb – a heb gyfnod trosglwyddo – yn ei chael ar economi’r Deyrnas Unedig.

Ond doedden nhw ddim wedi ystyried effaith yr ymadawiad dan yr amodau “mwyaf aflonyddgar”, sy’n golygu y gallai’r rhagolygon fod wedi bod yn waeth.

Yr adroddiad

“[Gallwn ddisgwyl] y bydd rhagor o ansicrwydd a llai o hyder yn gwneud buddsoddi yma’n llai deniadol,” meddai’r adroddiad.

“[Gallwn hefyd ddisgwyl] rhwystrau i’n masnach wrth allforio i’r Undeb Ewropeaidd.

[Bydd] cynnyrch domestig gros yn cwympo gan 2% erbyn diwedd 2020 – mae hynny 4% yn is na rhagolygon Mawrth.”