Mae ffermwr wedi cael dirwy o fwy na £2,000 am ddifrodi llwybr Clawdd Offa – ar ôl beio’i ddefaid am y weithred.
Mae Richard Pugh, 35 oed o Drefyclo, wedi pledio’n euog i ddinistrio neu ddifrodi cofgolofn warchodedig ym mis Rhagfyr.
Bellach, mae’n dweud mai beic modur pedair olwyn a pheiriannau amaeth oedd yn gyfrifol am y difrod i’r llwybr hynafol ger ei fferm.
Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands fod ei eglurhad gwreiddiol yn “anhygoel o warthus”, ond fe dderbyniodd fod y difrod yn fwy di-ofal na bwriadol, a’i fod yn dangos “anwybodaeth” y ffermwr.
Clawdd Offa
“Roedd naill ai’n cadw’r Cymry allan o Loegr neu’r gwrthwyneb, ac wn i ddim pam y byddai’r Cymry am fynd i Loegr,” meddai’r barnwr yn ystod yr achos.
Dywedodd yr erlynydd fod y llwybr yn rhedeg trwy dir y ffermwr, a bod Cadw wedi cael gwybod am y difrod y llynedd.
Roedd twll mewn ffens i sicrhau mynediad i gae arall, a da byw yn cael rhwydd hynt i symud o’r naill gae i’r cae.
Ar y cyfan, fe fu’n rhaid i Richard Pugh dalu £2,150 i atgyweirio’r llwybr.
Dywedodd y barnwr fod y gofgolofn “o bwys cenedlaethol a rhyngwladol”.