Mae mwy na 2,000 o bysgod wedi marw o ganlyniad i lygredd yn afon Dulas ger Capel Isaac yn Sir Gaerfyrddin, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Maen nhw hefyd yn dweud bod darn tair milltir (4.7km) o’r afon, sy’n bwydo i mewn i afon Tywi, wedi cael ei effeithio.
Mae swyddogion wedi bod ar y safle yn cymryd samplau a chynnal arolygon ers iddyn nhw gael gwybod am y digwyddiad ar Orffennaf 8.
Mae’r pysgod a gafodd eu “effeithio’n sylweddol”, medden nhw, yn cynnwys brithyllod, pennau lletwad, llysywod, llysywod pendoll, gwarchod barfog, pilcod ac eogiaid.
“Ystyried cymryd camau cyfreithiol”
“Yn anffodus, gallwn gadarnhau bod nifer sylweddol o bysgod wedi cael eu lladd ac y bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar yr afon am flynyddoedd i ddod,” meddai Ioan Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae ein staff wedi bod yn gweithio’n ddiflino yn casglu tystiolaeth am y digwyddiad hwn a byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth honno wrth ystyried cymryd camau cyfreithiol yn y dyfodol.”
Dywed ymhellach ei bod yn “gwbwl annerbyniol ac anghyfrifol fod nifer fach o ffermwyr yn peidio â chymryd sylw o arfer a rheoliadau a thrwy hynny’n rhoi enw drwg i weddill y diwydiant.”
Daw’r achos diweddaraf o lygredd ar adeg pan fo lefelau pysgod fel eogiaid a sewin yn “isel iawn”, meddai Ioan Williams wedyn.