Mae dros 3,000 o bobol wedi datgan eu diddordeb mewn digwyddiad i “ddwyn cyrch” ar San Steffan yn enw’r mudiad cenedlaetholgar.
Hyd yma, mae rhyw 3,100 o bobol wedi dangos diddordeb yn y digwyddiad ‘STORM WESTMINSTER THEY CAN’T OPPRESS US ALL’ ar wefan Facebook.
Ac mae dros 700 o bobol wedi dweud y byddan nhw’n cymryd rhan yn y cyrch sydd i fod i ddigwydd ar Dachwedd 5 eleni.
Jôc yw’r digwyddiad mewn gwirionedd, ac mae’n debyg mai’r Welsh Independence Memes for Angry Welsh Teens yw trefnwyr y ‘cyrch’.
Mae’r digwyddiad yn seiliedig ar ffug ddigwyddiad arall ar Facebook sydd hefyd yn annhebygol o gael ei gynnal mewn gwirionedd.
Area 51 dan warchae
Mae’r ‘cyrch’ y yn seiliedig ar ‘Storm Area 51, They Can’t Stop All of Us’ – digwyddiad cellweirus sydd bellach wedi mynd ar led ar y we.
Erbyn hyn, mae 1.6 miliwn o bobol wedi dweud y byddan nhw’n cymryd rhan, ac mae gan 1.2 miliwn o bobol diddordeb mewn ymweld â’r safle dirgel yn y Deyrnas Unedig.
“Wnawn ni gyd gwrdd ger atyniad twristiaid Canolfan Estroniaid Area 51, a wnawn ni gytuno ar sut i fynd i mewn …” meddai neges ar y digwyddiad. “Beth am i ni weld estroniaid!”
Llu Awyr yr Unol Daleithiau sy’n gyfrifol am Area 51 a dros y blynyddoedd mae sïon wedi lledu bod estroniaid yn cael eu cadw yno. Mae’r Llu wedi gwadu hynny ac yn rhybuddio pobol rhag ymweld.