Raymond Ashley yw enw’r dyn 50 oed a fu farw yn Ystalyfera ar Orffennaf 14.
Mae ei enw wedi’i gyhoeddi gan Heddlu’r De, sy’n ymchwilio i’w farwolaeth ym Maes Y Darren.
Mae’n gadael tri o blant, Steven, Kristy a James.
Mae dyn 48 oed a dynes 38 oed a gafodd eu harestio mewn perthynas â’i farwolaeth wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.
“Rydym yn drist iawn o golli ein tad, a bydd ei holl ffrindiau, ei deulu, ei blant a’i wyrion yn gweld ei eisiau,” meddai ei deulu.
“Roedd e’n gymeriad mawr ac yn garedig â phawb oedd yn ei adnabod.”