Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ddyn arall ym mhentref y Felinheli, rhwng Caernarfon a Bangor.
Cafodd yr heddlu eu galw i adeilad Arvonia ar Stryd Bangor yn y pentref am 12.45 fore heddiw (Dydd Mercher, Gorffennaf 17).
Mae’r heddlu’n dweud iddyn nhw ddanfon ambiwlans i’r safle, a bod un person wedi’i gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd, Bangor.