Mae papur newydd y Telegraph wedi codi gwrychyn Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn etholiad nesa’r Cynulliad, ar ôl honni bod stryd serthaf y byd wedi ei lleoli yn Lloegr, yn hytrach na Chymru.

Yn dilyn y cadarnhad mai Ffordd Penllech yn Harlech sydd wedi cipio’r teitl, fe gyhoeddodd y papur newydd erthygl a oedd, yn wreiddiol, yn dwyn y pennawd ‘First the Cricket World Cup, now England takes New Zealand’s steepest street crown in equally controversial fashion’.

Fe gipiodd y stryd yn Ardudwy deitl ‘stryd serthaf y byd’ ar ôl derbyn cadarnhad swyddogol fod ganddi raddiant o 37% – dwy radd yn fwy na Baldwin Street yn ninas Dunedin yn Seland Newydd.

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae pennawd gwreiddiol yr erthygl yn dangos sut fath o ddyfodol fydd gan Gymru ar ôl Brexit.

https://www.facebook.com/mabon.ap.gwynfor/posts/10162099581345092

Tîm criced i Gymru?

Mae’r Aelod Cynulliad Annibynnol, Neil McEvoy, hefyd wedi tynnu sylw at yr erthygl, gan achub ar y cyfle i ddweud ei fod yn cefnogi’r alwad am dîm criced cenedlaethol i Gymru.

“Dw i ddim yn gwybod beth i’w ddweud am hyn, i ddweud y gwir,” meddai ar Twitter. “Does dim tîm criced ‘Prydeinig’ chwaith.

“Mae gan yr Alban, Iwerddon, Ynys Manaw, Jersey a Guernsey eu timoedd eu hunain. Dylai Cymru gael un hefyd.”

Mae’r Telegraph bellach wedi addasu pennawd yr erthygl, gan newid ‘England’ i ‘UK’.