Mae teulu dynes 24 oed a gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd wedi talu teyrnged iddi.
Cafodd Fflur Green o Drawsfynydd ei lladd pan darodd y car Renault Scenic roedd hi’n teithio ynddo yn erbyn car Mitsubishi ASX ar ffordd A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog toc cyn 9.50 nos Iau, Gorffennaf 11.
“All geiriau ddim disgrifio’r boen annioddefol hon yr ydym yn ei theimlo o golli ein merch, chwaer ac wyres,” meddai ei theulu.
“Fy merch brydferth, addfwyn, dawel, ddawnus oedd yn gweithio’n galed.
“Wedi’i chipio oddi arnom yn rhy fuan o lawer.
“Hêd yn uchel, fy angel annwyl. Mae Mam yn dy garu di.”
Apêl
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth neu ddeunydd dashcam.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.