Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud ei fod yn ymchwilio i honiadau bod cyn-weithiwr yn KFC Bangor wedi cael gorchymyn i beidio â siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid.

Fe adawodd Ceri Hughes, myfyriwr Hanes ym Mhrifysgol Bangor, ei swydd yn y bwyty ar y stryd fawr ar ôl iddi dderbyn y gorchymyn gan ei goruchwyliwr yn ystod shifft nos ar Fehefin 28.

Ers i’r honiadau ddod i’r fei, mae ymgyrchwyr iaith a gwleidydd lleol wedi beirniadu KFC, gan ddisgrifio’r digwyddiad fel un “annerbyniol”.

Mae KFC wedi ymateb drwy ddweud bod gan staff a chwsmeriaid yr hawl i gyfathrebu yn yr iaith y maen nhw’n “gyfforddus ynddi”.

Galw am ymddiheuriad

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar KFC i “ymddiheuro’n syth” a mabwysiadu “polisi clir” sy’n nodi bod gan eu staff a’u cwsmeriaid yr hawl i gyfathrebu’n Gymraeg.

“Ar lawr gwlad, dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion lle mae cyflogwyr yn gwahardd defnydd o’r iaith,” meddai Tamsin Davies.

“Mae’n bwysig bod pobol yn cwyno wrth Gomisiynydd y Gymraeg yn uniongyrchol os oes honiad o’r fath.

“Ond rydyn ni hefyd yn annog y Comisiynydd i wneud llawer iawn mwy i godi ymwybyddiaeth o’r gyfraith ac i daclo’r rhagfarn yn erbyn lleiafrifoedd a’r Gymraeg sydd tu ôl i’r digwyddiadau a pholisïau ofnadwy hyn.”

Comisiynydd y Gymraeg – ‘ymchwilio i’r mater’

“Gallwn gadarnhau ein bod wedi derbyn cais mewn cysylltiad â’r mater hwn,” meddai llefarydd ar ran y Comisiynydd.

“Byddwn nawr yn ystyried y dystiolaeth er mwyn canfod a ddywedwyd wrth weithiwr na ddylai ddefnyddio’r Gymraeg ac i ba raddau yr oedd hynny yn ymyrryd âr rhyddid sydd gan bobol yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd.”

Mewn ymateb i golwg360, dywedodd llefarydd ar ran KFC eu bod “wastad eisiau i aelodau ein tîm ddefnyddio’r iaith y maen nhw a’n hymwelwyr yn gyfforddus ynddi”.