Mae Rod Richards, cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, wedi marw’n 72 oed.

Fe fu’n cwffio canser ers nifer o flynyddoedd.

Yn Gymro Cymraeg a gafodd ei eni yn Llanelli, ef oedd arweinydd cynta’r Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

Yn dilyn cyfnod yn y Llynges, aeth i weithio i’r Weinyddiaeth Amddiffyn cyn dod yn ddarlledwr newyddion gyda BBC Cymru ac S4C.

Gyrfa wleidyddol

Ar ôl mentro i’r byd gwleidyddol, fe geisiodd ddwywaith i gael ei ethol cyn ennill sedd Gogledd-orllewin Clwyd yn annisgwyl yn 1992.

Yn 1994, cafodd ei benodi’n gynorthwy-ydd seneddol ac yna’n weinidog iau yn y Swyddfa Gymreig.

Fe gollodd ei sedd yn etholiad cyffredinol 1997 pan ddaeth Llafur i rym, ond fe gafodd ei ethol i sedd ranbarthol yn y gogledd adeg agor y Cynulliad yn 1999.

Bu’n rhaid iddo ymddiswyddo o’i rôl yn arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, yn dilyn cyhuddiad o ymosod ar ddynes mewn bwyty, ond fe’i cafwyd yn ddieuog yn ddiweddarach.

Fe wnaeth e ymddeol o’r Cynulliad yn 2002 yn dilyn brwydr yn erbyn alcoholiaeth.

Mae’n gadael tri o blant ac wyth o wyrion.

Teyrngedau

Roedd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, ymhlith y cyntaf i dalu teyrnged iddo.