Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o “fygwth” cynghorwyr i beidio â mynd i sgwrs cyfreithiwr am asesiadau effaith iaith.
Fis diwethaf, fe rybuddiodd y bargyfreithiwr, Gwion Lewis, fod y cyngor yn agored i risgiau cyfreithiol pe baen nhw’n cymeradwyo canllawiau cynllunio a fyddai’n groes i ddeddfwriaeth gan y Cynulliad yn 2015.
Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi beirniadu’r canllawiau, gan ddweud y byddai’r canllawiau cynllunio atodol yn golygu mai rhan fach o geisiadau cynllunio fydd yn gorfod derbyn asesiad effaith iaith llawn.
Ond mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod yn “gwbwl hyderus” yn eu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ac nad oes “llyffethair cyfreithiol” yn atal y broses o fabwysiadu’r canllawiau atodol.
Rhybudd Cyngor Gwynedd
Rai wythnosau yn ôl, fe wahoddodd Cymdeithas yr Iaith gynghorwyr lleol i sgwrs yr wythnos hon gan Gwion Lewis er mwyn trafod cwestiynau cyfreithiol am y canllawiau.
Ond mewn e-bost sydd wedi dod i law Cymdeithas yr Iaith, mae Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth gynghorwyr nad “lle Mr Gwion Lewis na Chymdeithas yr Iaith yw darparu arweiniad cyfreithiol i Gyngor Gwynedd na’i aelodau.”
Mae’r neges yn mynd ymlaen i ddweud bod yn “rhaid i aelodau… [c]ymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro mewn modd sy’n diogelu buddiannau’r cyhoedd.”
“Codi ofn”
Yn ôl Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith, mae’n “hollol glir” mai pwrpas yr e-bost gan Gyngor Gwynedd yw “codi ofn ar gynghorwyr”.
“Mae’n rhaid dweud fy mod i’n pryderu’n fawr am gyflwr democratiaeth yng Ngwynedd,” meddai.
“Pa ddemocrat fyddai’n meddwl ei fod yn iawn i fygwth cynghorwyr yn y fath modd? Oni ddylai’r cyngor fod yn annog trafodaeth agored am y materion hyn?
“Mae cwestiynau mawr i’w gofyn am pam mae’r swyddog wedi anfon y neges hon a phwy sydd wedi ei gyfarwyddo.”
Ymateb Cyngor Gwynedd
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae gan Swyddog Monitro pob awdurdod lleol “rôl statudol i sicrhau fod awdurdod lleol yn gweithredu mewn ffordd gyfreithlon”.
“Fel rhan o’r dyletswyddau hynny mae’n arferol darparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol i aelodau etholedig y Cyngor yn ôl yr angen,” meddai llefarydd.
“Mae hefyd yn ofyn yng Nghymru fod aelodau awdurdodau lleol yn ystyried cyngor swyddogion ac yn benodol Swyddog Monitro wrth weithredu eu swyddogaethau.
“Ni fyddai’n briodol gwneud sylw ar fanylion unrhyw gyngor cyfreithiol penodol sydd yn cael ei ddarparu i gynghorwyr.”