Mae’r cwest i farwolaeth Carl Sargeant wedi ail-ddechrau heddiw.

Cafwyd hyd i gorff y cyn-aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru yn crogi yn ei gartref yng Nghei Conna ar Dachwedd 7, 2017.

Roedd hynny ddyddiau’n unig ar ôl i gyn-Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy gael ei ddiswyddo yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol

Cafodd y cwest i’w farwolaeth ei ohirio am gyfnod amhenodol ym mis Tachwedd y llynedd yn dilyn penderfyniad i alw Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, yn ôl i roi tystiolaeth ac i ganiatáu i her gyfreithiol gael ei wneud.

Roedd Carwyn Jones wedi rhoi tystiolaeth am y “gofal” a gafodd Carl Sargeant ar ôl cael ei ddiswyddo, ond roedd llys y crwner wedi clywed datganiad gan yr Aelod Cynulliad Ann Jones oedd yn gwrthddweud hynny.

Mae disgwyl i Carwyn Jones, a oedd wedi camu o’i swydd yn Brif Weinidog ym mis Rhagfyr y llynedd, ymddangos eto yn y cwest yn Neuadd y Sir yn Rhuthun heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 8), ynghyd a’i brif ymgynghorydd arbennig Matt Greenough.

Negeseuon

Roedd Carwyn Jones wedi gwneud apêl gyfreithiol i ganiatau i negeseuon testun yn ymwneud ag ymddygiad Carl Sargeant gael eu clywed yn y cwest.

Roedd Carwyn Jones eisiau i’r cwest ystyried negeseuon testun a gafodd eu cyfnewid rhwng cyn-arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton, a’i ddirprwy, Bernie Attridge. Mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ym mis Mai, roedd ei gyfreithwyr wedi dadlau bod methiant y cwest i glywed tystiolaeth gan y ddau yn golygu nad oedd y cwest yn “ymchwiliad llawn a theg.”

Ond cafodd y cais ei wrthod gan y barnwr yr Arglwydd Ustus Haddon-Cave.

Yn dilyn ei farwolaeth yn 2017 roedd Carwyn Jones wedi cyhoeddi y byddai ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i’r modd roedd wedi delio gyda diswyddiad Carl Sargeant yn dilyn pwysau gan deulu’r cyn-Weinidog Cymunedau, 49 oed.

Ym mis Mawrth roedd ei weddw, Bernie Sargeant wedi ennill her yn yr Uchel Lys ynghylch gyfreithlondeb yr ymchwiliad ar ol i’r barnwyr ddyfarnu bod cysylltiad Carwyn Jones a’r ymchwiliad yn “anghyfreithlon”.

Mae disgwyl i’r cwest ddod i ben yn ddiweddarach yn yr wythnos.