Mae gwasanaeth TrawsCymru newydd yn cael ei lansio yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 3).

O ganlyniad i fuddsoddiad o £2.1m gan Lywodraeth Cymru, fe fydd deuddeg bws newydd yn rhedeg ar wasanaethau T4 a T14.

Bydd cysylltiadau yn cael eu gwneud rhwng y Drenewydd a Henffordd; Y Gelli Gandryll ac Aberhonddu; a Merthyr Tudful a Chaerdydd.

Fe enillodd y cwmni bysiau Stagecoach cytundeb saith mlynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru roi grant i Gyngor Sir Powys. Mae’r cwmni wedi gallu prynu dwsin o fysus llawr isel.

Bydd y cerbydau newydd, aneffeithlon o ran ynni ac, yn cynnwys raciau bagiau ychwanegol, porth trydanu ffonau USB ar gefnau seddi a WiFi.