Mae o leiaf 40 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i daflegryn lanio ar ddalfa i ymfudwyr ym mhrifddinas Libya, meddai swyddog iechyd yn llywodraeth y wlad.

Cafodd 80 o ymfudwyr eu hanafu hefyd gan y taflegryn a laniodd yn y ganolfan yn Tripoli.

Mae’r llywodraeth yn beio Byddin Genedlaethol Libya, o dan arweinyddiaeth Khalifa Hifter, am yr ymosodiad ac maen nhw’n galw ar y Cenhedloedd Unedig i ymchwilio.

Yn ôl cyfryngau lleol hefyd, Byddin Genedlaethol Libya sydd wedi tanio’r taflegryn tuag at wersyll milisia ger y ddalfa.

Mae lluoedd Khalifa Hifter yn rheoli llawer o’r wlad yn y dwyrain a’r de ond cafwyd ergyd sylweddol yr wythnos diwethaf pan adenillodd y milisiadau a oedd yn gysylltiedig â’r llywodraeth dref strategol Gharyan, tua 62 milltir o’r brifddinas.