Bydd Warren Gatland yn dychwelyd i Seland Newydd y tymor nesaf i hyfforddi’r Gallagher Chiefs.

Bydd y Kiwi 55 oed yn camu o’r neilltu fel prif hyfforddwr Cymru ar ddiwedd y flwyddyn yn dilyn pencampwriaeth Cwpan y Byd.

Mae eisoes wedi ei gadarnhau’n brif hyfforddwr ar y Llewod ar y daith i Dde Affrica yn 2021, ond yn y cyfamser fe fydd yn dychwelyd i fro ei febyd yn Hamilton.

“Mae’r cyfle i ddychwelyd ac i ddod yn brif hyfforddwr y Gallagher Chiefs yn rhywbeth sy’n fy llenwi â chyffro,” meddai Warren Gatland.

“Mae’r Gallagher Chiefs yn enwog am eu llwyddiant ar y cae a thu hwnt, ac mae ganddyn nhw gefnogaeth ffyddlon gan bawb o fewn rhanbarth y Chiefs.”

Dewis naturiol

Cyn dod i Gymru yn 2008, roedd Warren Gatland yn brif hyfforddwr ar Undeb Rygbi Waikato a bu’n ymgynghorydd technegol i’r Chiefs yn 2006.

Mae prif weithredwr y Chiefs, Michael Collins, wedi disgrifio Warren Gatland fel “hyfforddwr o safon ryngwladol”.

“Roedd ei gefndir rygbi da a’i awydd i ddychwelyd adre i Seland Newydd ac i fod yn rhan o Super Rugby yn naturiol yn ei wneud yn brif ddewis ar gyfer y swydd,” meddai.