Mae Cymraes Gymraeg o Geredigion wedi bod yn sôn wrth gylchgrawn Golwg am y profiad o ennill y British Miss Bikini Open Title yn Southport ar Lannau Merswy.
Bydd Carys Llewelyn yn mynd yn ei blaen i gynrychioli gwledydd Prydain mewn cystadleuaeth corff lunio rhyngwladol ym mis Tachwedd.
Mae’r ferch o Geredigion yn cystadlu yn y categori i rai sy’n fach o gorff, ac amaturiaid yw pawb sy’n cymryd rhan.
Er hynny, mae’r drefn o ran ymarfer corff yn llym a’r arferion bwyta’n iach yn haearnaidd.
“Mae’r paratoi yn galed iawn o ran yr ymarfer corff – dw i’n gwneud dwy awr a hanner bob dydd,” meddai Carys Llewelyn wrth gylchgrawn Golwg.
“Yn y bore fydda i’n gweithio ar losgi bloneg ar ôl dihuno, a chyn brecwast – mynd mas i redeg, neu fynd ar feic ymarfer corff, rhywbeth fel yna am dri chwarter awr.
“Wedyn fydda i’n codi pwysau am awr yn ystod y dydd ac wedyn 30 eiliad o ymarfer yn galed a 30 eiliad o seibiant a hynny am chwarter awr. Cyn mynd i’r gwely fydda i’n ymarfer yr ysgwyddau, gwddf a chefn.”
Mwy am lwyddiant Carys Llewelyn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg