Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i achos o daro a ffoi ar ôl i ddyn 83 oed gael ei daro gan feic modur.
Gyrrodd y beiciwr modur i ffwrdd o ardal Llanrhymni, ac fe fu’n rhaid i’r dyn oedrannus dderbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad am oddeutu 5.15 brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 22).
Mae e bellach wedi cael mynd adref.
Mae’r heddlu’n ceisio dod o hyd i yrrwr y beic modur, gan ddweud nad oedd e wedi stopio yn dilyn y digwyddiad.
Maen nhw’n awyddus i glywed gan dystion, neu unrhyw un a welodd feic modur yn cael ei yrru yn yr ardal cyn neu ar ôl y digwyddiad.
Mae lle i gredu bod y gyrrwr yn gwisgo crys-T gwyn.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.