Mae tad llanc 17 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth ger gorsaf danddaearol yn Llundain wedi beirniadu “difaterwch” ei lofrudd.

Cafodd Malcolm Mide-Madariola ei drywanu yn ei galon wrth geisio amddiffyn ei ffrind y tu allan i orsaf De Clapham ar brynhawn Tachwedd 2 y llynedd.

Roedd y teulu wedi symud o Nigeria i geisio bywyd mwy diogel ond mae ei dad yn dweud bod Llundain yn llai diogel nag yr oedd ar y diwrnod y cafodd ei fab ei eni.

“Aethon ni i’r achos llys bob dydd a’r hyn oedd wedi fy ypsetio oedd nad oedd y bechgyn hyn wedi dangos unrhyw edifeirwch, roedden nhw’n gwenu,” meddai wrth y Mail on Sunday.

“Ar un adeg, dywedon nhw, ‘Dim ond cyllell oedd e, dim bwys’. Ond mi oedd e.

“Roedd gen i bedwar o blant, ond dim ond tri sydd gen i nawr.”

Bellach, mae’r teulu wedi symud o Dulwich yn ne Llundain i Dartford yng Nghaint.

‘Ro’n i’n teimlo fy mod i’n fethiant’

Ar ôl colli ei fab, mae’n dweud ei fod e’n teimlo fel pe bai e’n “fethiant” am nad oedd e wedi gallu amddiffyn ei deulu, er ei fod e’n fyfyriwr ymchwil dramor ar y pryd.

“Dw i’n arbenigwr ar ddiogelwch, ac ro’n i wedi methu â chadw fy nheulu’n ddiogel,” meddai.

“Roedden ni’n teimlo y byddai’n fwy diogel i’n plant symud o Nigeria i Loegr, ond dydy Llundain ddim mor ddiogel â phan symudodd fy nhad yma gyntaf yn y 1960au.

“Dydy e ddim hyd yn oed mor ddiogel ag yr oedd pan gafodd Malcolm ei eni.”

Yr achos

Yn dilyn yr achos, mae’n galw am gosbau mwy llym ar gyfer troseddau cyllyll, ac mae’n dweud bod rhaid i rieni gymryd cyfrifoldeb am yr hyn mae eu plant yn ei wneud.

Cafwyd llanc 17 oed yn euog yn yr Old Bailey o lofruddio’i fab, ac o fod â chyllell yn ei feddiant.

Cafwyd Treynae Campbell yn ddieuog o lofruddio, er ei fod e wedi cyfaddef bod â chyllell yn ei feddiant.

Cafodd ei lofruddio ddau ddiwrnod ar ôl ffrae ar gampws coleg yn ne Llundain, pan geisiodd ei lofruddio chwilio am ffrind Malcolm, gan honni ei fod e wedi ei fygwth â chyllell.

Yn dilyn y ffrae, cafodd Malcolm ei drywanu dair gwaith cyn i’w lofrudd redeg i ffwrdd a thaflu’r gyllell i’r bin.

Bydd y llanc yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.