Mae tri dyn wedi derbyn gwaharddiadau yn dilyn ffrae yn Stadiwm Dinas Caerdydd y llynedd.
Mae Lee Thomas o ardal Pentre wedi derbyn pum mlynedd o waharddiad ar ôl pledio’n euog i ymosod ar berson yn ystod y gêm rhwng Dinas Caerdydd a Manchester United ar Rhagfyr 22.
Mae Gareth Walters o Drelái a Royston Davies o Lanrhymni wedi derbyn gwerth tair blynedd o waharddiadau yr un mewn cysylltiad â’r un digwyddiad.
Yn dilyn eu dedfrydu, mae’r dynion hefyd wedi eu gorchymyn i gwblhau gwaith cymunedol a thalu iawndal.
Ffrae yn y stadiwm
Dechreuodd y ffrae yn Stand Canton ar ddiwedd hanner cyntaf y gêm pan ddaeth i’r amlwg bod bachgen, 22, o Drelái, a’i frawd, 16, a oedd yn cefnogi Manchester United, ynghanol torf o gefnogwyr Caerdydd.
Cafodd y ddau eu cludo o’r stand yn fuan wedyn, ond fe barhaodd y ffrae y tu allan.
“Roedd y dioddefwr, a’i frawd, wedi derbyn tocynnau ar gyfer yr ochr anghywir ac, yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion taer ganddyn nhw, fe fethon nhw â rheoli eu hemosiynau pan roddwyd penalti i Manchester United,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.
“Er mai twpdra oedd eistedd ar ochr y cefnogwyr adre, doedd y dyn ifanc hwn ddim yn haeddu cael ei ymosod arno.”
Y dedfrydau
Roedd Gareth Walters, 34, wedi pledio’n euog i boeri yn wyneb y dioddefwr ac mae wedi ei ddedfrydu i ddeufis yn y carchar, sydd wedi ei ohirio am flwyddyn.
Mae hefyd wedi ei orchymyn i gwblhau 100 awr o waith cymunedol, ac i dalu £100 mewn iawndal a £225 ychwanegol mewn costau eraill.
Roedd Royston Davies, 47, wedi pleidio’n euog i fwrw’r dioddefwr gyda’i ddwrn, ac mae wedi ei orchymyn i gwblhau 60 awr o waith cymunedol ac i dalu £100 mewn iawndal a £170 ychwanegol mewn costau eraill.
Mae Lee Thomas, 34, a blediodd yn euog i ymosod ar y dioddefwr, wedi ei orchymyn i dalu 120 awr o waith cymunedol ac i dalu £50 mewn iawndal a £170 ychwanegol mewn costau eraill.
Derbyniodd waharddiad hirach oherwydd ei fod eisoes wedi derbyn gwaharddiad tair blynedd ym mis Mawrth, a hynny am dresbasu ar y cae fis ynghynt.