Mae Geraint Thomas yn disgwyl bod yn holliach i gystadlu yn ras feics Tour de France, lle bydd yn amddiffyn ei deitl eleni.
Daeth y Cymro oddi ar ei feic yn ystod pedwerydd cymal ras Tour de Suisse ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 18), 30km o’r llinell derfyn.
Bu’n rhaid iddo dderbyn triniaeth feddygol ar ochr yr heol.
Mae’r Tour de France yn dechrau ym Mrwsel ar Orffennaf 6.
Mewn neges ar ei dudalen Twitter, mae’n dweud ei fod yn “iawn”, ond ei fod e wedi cael pwythau uwchben ei lygad a briwiau ar ei ysgwydd.
Bu’n rhaid iddo gael profion yn yr ysbyty.
Mae disgwyl iddo arwain tîm Ineos eleni yn absenoldeb Chris Froome, sydd hefyd yn gwella ar ôl gwrthdrawiad yn Ffrainc yn ystod y Criterium du Dauphine yr wythnos ddiwethaf.