Mae corff sy’n cynrychioli optegwyr wedi ymddiheuro i ymgyrchwyr iaith wedi iddyn nhw ddweud na ddylai eu haelodau gynnig gwasanaeth Cymraeg i’w cleifion.

Yn eu tystiolaeth gerbron pwyllgor diwylliant y Senedd, dywedodd Optometreg Cymru, sy’n cynrychioli optegwyr y “bydden ni’n cynghori ymarferwyr i beidio â chynnal profion golwg nac archwiliadau clinigol mewn iaith heblaw’r iaith yr astudion nhw ynddi.

“Mae gennym bryderon am oblygiadau meddygol-gyfreithiol gynnal archwiliadau a chyngor clinigol drwy iaith heblaw am y Saesneg.” 

Ond ers derbyn sylw negyddol yn y wasg, mewn e-bost at Gymdeithas yr Iaith, mae’r corff wedi ymddiheuro, gan ddweud eu bod nhw bellach yn sylweddoli eu bod wedi “camddehongli’r briff”. 

“Rydyn ni wedi achosi gofid a phryderon nid yn unig o fewn y proffesiwn yr ydym yn ei gynrychioli sy’n darparu profion golwg drwy’r iaith Gymraeg yn hyderus ac yn gymwys, ond hefyd i bartneriaid fel chi. Rydym yn ymddiheuro’n ddi-os.”

Daw’r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru geisio pasio rheoliadau iechyd yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 19) sy’n ymwneud â darpariaeth Gymraeg optegwyr, meddygon teulu, deintyddion a fferyllwyr.