Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn cael cyfarfod gydag Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) fore heddiw (Dydd Llun, Mehefin 17) i drafod yr ansicrwydd sy’n wynebu’r diwydiant yn sgil Brexit.

Mae disgwyl i ffermwyr Cymru ddangos sut maen nhw’n bwriadu cynllunio ar gyfer dyfodol ansicr yn sgil Brexit a bydd trafodaethau ynglŷn â’r newidiadau i’r gefnogaeth ariannol ar gyfer amaethwyr.

Yn ogystal, mae ffermwyr Cymru yn teimlo bod ymosodiadau di-sail wedi cael eu hanelu at y diwydiant, a bydd hynny’n ffactor fydd yn cael ei drafod hefyd.

Mae ffermwyr o bob cwr o Gymru wedi ymgynnull yn Aberystwyth i glywed beth fydd gan Mark Drakeford i’w gynnig i helpu’r diwydiant yn y wlad.

“Rydym yn awyddus i glywed gan Mark Drakeford yn uniongyrchol ynglŷn â sut, yng nghanol ansicrwydd Brexit, y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau sefydlogrwydd i’n diwydiant,” meddai rheolwr gyfarwyddwr Undeb Amaethwyr Cymru, Alan Davies.

“Gweledigaeth”

“Gweledigaeth Undeb Amaethwyr Cymru yw sicrhau bod ffermydd yng Nghymru yn ffynnu ac yn gynaliadwy,” meddai Alan Davies.

Yn ystod y gynhadledd staff mae’r Undeb wedi trafod y prif heriau sy’n wynebu’r diwydiant yn y tymor hir a’r tymor byr.

“Mae yna lawer o faterion sydd y tu allan i reolaeth Mark Drakeford a Llywodraeth Cymru, fel trafodaethau Brexit, ac rwy’n falch bod safbwyntiau’r Undeb a’r Llywodraeth yn debyg o ran aros yn y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau.”

Yn ôl Alan Davies mae’r rhain yn ganolog i sicrhau bod economi, swyddi a diwydiant amaeth Cymru yn cael ei warchod.