Mae cwmni adeiladu Kier Group yn bwriadu cael gwared a 1,200 o swyddi fel rhan o gynlluniau i symleiddio’r busnes ac arbed costau.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil adolygiad strategol a gafodd ei gynnal gan brif weithredwr newydd y cwmni, Andrew Davies.

Bydd 650 o weithwyr llawn amser yn colli eu swyddi ar ddiwedd y mis, tra bydd 550 arall yn gadael cyn diwedd blwyddyn ariannol 2020.

Mae disgwyl i’r cam arwain at arbedion o £55m y flwyddyn i’r cwmni o 2021 ymlaen.

Er hyn, mae disgwyl iddyn nhw wario £28m ar ailstrwythuro yn ystod y flwyddyn hon a’r un nesaf.

“Mae’r camau hyn yn canolbwyntio ar ailosod strwythur Kier, symleiddio’r portffolio a chreu arian fel bod modd lleihau dyledion,” meddai Andrew Davies.

“Drwy ymgymryd â’r newidiadau hyn, fe fyddwn ni’n cryfhau’r seiliau fel bod ein gweithgareddau craidd yn gallu ffynnu yn y dyfodol, a hynny er lles ein cyfranddalwyr.”