Mae ffigyrau newydd gafodd eu rhyddhau gan elusen iechyd ASH Cymru yn dangos bod tua 38 o bobl ifanc sydd erioed wedi ysmygu o’r blaen yn trio sigarennau bob diwrnod yng Nghymru.
Mae tua 14,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 15 blwydd oed sydd erioed wedi ysmygu o’r blaen yn dechrau ysmygu- dyma 269 o bobl ifanc yr wythnos.
Mae ymchwil yn dangos bod tua 1,000 o bobl ifanc rhwng 10 mlwydd oed a 11 yn trio ysmygu am y tro cyntaf. Mae’r nifer yn dyblu mewn plant 12 a 13 blwydd oed ac yn treblu mewn plant 13 a 14 blwydd oed.
Mae Prif Weithredwr dros dro elusen ASH Cymru wedi dweud bod y ffigurau hyn yn “peri pryder”.
“Rydan ni’n gwybod bod pobl ifanc yn symud ymlaen yn eithaf cyflym o arbrofi gyda Tobacco i ysmygu yn rheolaidd ac wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, maen nhw’n datblygu dibyniaeth ar nicotine,” meddai Carole Morgan-Jones gan egluro fod yr ymchwil wedi’i wneud yn ystod yr Haf eleni.
Mae’r elusen wedi holi dros 1,000 o bobl ifanc yng Nghymru ac wedi darganfod fod pumed o’r ysmygwyr wedi dechrau ysmygu’n 13 blwydd oed.
Roedd mwyafrif (60%) yr ysmygwyr yn dweud yr hoffent roi’r gorau iddi ac roedd 76% yn credu’i bod nhw’n gaeth.
Fe ddywedodd Carole Morgan-Jones fod yr ymchwil yn pwysleisio pwysigrwydd rhaglenni atal ysmygu i’r ifanc.
“Mae torri cylch dieflig dibynadwyedd plant ar gynnyrch Tobacco yn angenrheidiol i leihau’r problemau iechyd cyfredol, economaidd a’r problemau cymdeithasol mae Tobacco yn ei achosi yng Nghymru.”
Mae’r ffigyrau yn cael eu rhyddhau cyn cynhadledd yng Nghaerdydd yr wythnos hon. Mae ASH Cymru ac Alcohol Concern Cymru yn cydweithio i gyflwyno cynhadledd ‘Tobacco and Alcohol: Learning from each other’ ar 12 a 13 Hydref, yng Ngwesty’r Parc Thistle.