Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn gwarchod swyddi yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.
Yn ôl Dyfodol i’r Iaith, maen nhw ar ddeall bod y brifysgol yn bwriadu cwtogi staff dwyieithog yr Ysgol.
Byddai hyn yn “ergyd” i’r bwriad i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, medden nhw, a hynny mewn cyfnod pan mae’r angen am athrawon sy’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn “argyfyngus”.
Mae’r ymgyrchwyr wedi cysylltu â Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, yn galw am ei hymyrraeth “ar fyrder”.
“Os ydym o ddifri ynglŷn â chreu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif, yna’n amlwg, mae hyfforddi athrawon cyfrwng Cymraeg ar draws holl bynciau’r cwricwlwm yn allweddol er mwyn cyrraedd y targed,” meddai Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd.
“Dylem gynyddu ac nid cwtogi’r ddarpariaeth. Gan fod y toriadau hyn yn tanseilio nod strategol y Llywodraeth, rydym wedi cysylltu â’r Gweinidog i ofyn iddi ymyrryd ar fyrder yn yr achos hwn.”
Ymateb y brifysgol
Meddai llefarydd: “Mae Prifysgol Bangor, fel llawer yn sector addysg uwch y DU, yn wynebu tirwedd ariannol heriol oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys cystadleuaeth ddomestig a rhyngwladol ddwys, a dirywiad demograffig sylweddol yn y boblogaeth 18-20 oed.
“Mae’r blynyddoedd diweddar wedi bod yn arbennig o anodd o ran recriwtio athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru, a daw hyn ar adeg pan fo newidiadau sylweddol mewn Addysg Gychwynnol Athrawon ar lefel genedlaethol sy’n gofyn am fwy o integreiddio rhwng ysgolion a phrifysgolion, a bydd o leiaf 20% o addysg athrawon bellach yn digwydd mewn ysgolion.
“O ganlyniad, mae’r Brifysgol yn ymgynghori ar gynnig i gwtogi nifer y staff o 8.2 (cyfwerth ag amser llawn) dros y tair blynedd nesaf er mwyn sicrhau Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol sy’n gadarn yn ariannol. Fodd bynnag, maent yn disgwyl i’r nifer yna ostwng wrth i newidiadau i lefelau staffio ddigwydd dros y misoedd nesaf oherwydd camau fel diswyddiadau gwirfoddol. Mae’n bwysig nodi hefyd fod y gostyngiad hwn yn berthnasol i nifer o feysydd yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol ac nid yn unig i Addysg Gychwynnol Athrawon.
“Mae’r Brifysgol yn pwysleisio na fydd y newidiadau arfaethedig hyn yn effeithio ar nifer yr athrawon sydd wedi’u hyfforddi, nac ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws yr Ysgol, ac nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud eto.
“Mae Bangor hefyd yn awyddus iawn i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon dros y blynyddoedd nesaf, ac mae’n dal i groesawu ceisiadau ar gyfer mis Medi eleni.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae’r Brifysgol wedi’i hachredu i ddarparu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon a rhaid iddi barhau i gyflwyno’r rhaglenni i’r safonau disgwyliedig. Bydd Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn yn parhau i fonitro cyflawniad yn erbyn y meini prawf achredu.
“Fel corff annibynnol, y brifysgol ei hun sy’n gyfrifol am faterion staffio. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i brifysgolion ymgysylltu â staff, undebau llafur a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ystyried yr effaith ar staff a myfyrwyr. ”