Mae merch un o sefydlwyr Cwmni Theatr Maldwyn, wedi cael ei phenodi’n drefnydd ar theatr sydd wedi ei henwi ar ôl ei thad.
Roedd Derek Williams, a fu farw yn 2014 yn 64 oed, yn athro Mathemateg yn Ysgol y Berwyn yn y Bala.
Ddechrau eleni, fe gyhoeddwyd y bydd y neuadd sy’n rhan o gampws newydd Ysgol Godre’r Berwyn yn cael ei henwi’n ‘Theatr Derek Williams’ er coffadwriaeth i’r athro a’r cerddor.
Bellach, mae Branwen Haf Williams, ei ferch, wedi ei phenodi’n rhan amser i fod yn gyfrifol am farchnata a gweithio ar raglen o weithgareddau’r theatr.
Balchder
“Mi fydd yn daith, nid canlyniad sydyn wrth i ni sefydlu Theatr Derek Williams, ond dw i’n falch iawn o’r swydd rhan amser i roi tro arni,” meddai Branwen Haf Williams mewn neges ar Facebook.
“Mae yna dîm o wirfoddolwyr penigamp a staff anhygoel yn Ysgol Godre’r Berwyn sydd am i’r fenter hon lwyddo ar ei chanfed, a byddwn yn dechrau arni go iawn dros y misoedd nesaf.
“Ara deg a bob yn dipyn…”