Bydd sefyllfa “hunllefus” yn nhref Llanymddyfri heb yr un banc, meddai perchennog busnes lleol.

Bydd y banc olaf yn y dref farchnad yn cau ei drysau am y tro olaf heddiw (dydd Gwener, Mehefin 7).

Yn ôl Barclays, maen nhw wedi penderfynu cau eu cangen oherwydd dirywiad yn nifer y cwsmeriaid sy’n eu defnyddio, wrth i fwy a mwy droi at fancio ar-lein.

Mae’r dref, lle cafodd un o ‘r banciau cyntaf yng Nghymru – Banc yr Eidion Du – ei sefydlu yn 1799, eisoes wedi colli canghennau HSBC, NatWest a Lloyds yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Teithio pellter i fancio

Yn ôl Laura Williams, perchennog siop Llanwrda Stores, mae diffyg cyfleusterau bancio yn mynd i fod yn “heriol” i fusnesau bach, annibynnol.

“Yn amlwg, rydyn ni’n lwcus yn Llanymddyfri bod y Swyddfa Bost wedi ailagor, ond a ydyn nhw’n mynd i allu ymdopi gyda’r cynnydd mewn busnes a’r ceisiadau am newid mân?” meddai.

Mae Laura Williams yn gwsmer gyda banc Lloyds, a gaeodd ei gangen yn nhref Llanymddyfri’r llynedd.

Erbyn hyn, mae’n rhaid i’r siopwraig deithio i’r gangen agosaf yn naill ai Rhydaman neu Gaerfyrddin os yw hi am wneud busnes gyda’r banc.

“Dw i’n gorfod mynd yr holl ffordd i Rydaman neu Gaerfyrddin, sy’n hunllef,” meddai. “Mae’n golygu fy mod i ond yn gallu bancio siec unwaith yr wythnos, sydd wedi achosi oedi mawr inni wrth geisio cael mynediad at arian a thaliadau.”

‘Dim cysylltiad â’r Wê’

Mae’r Cynghorydd Handel Davies yn pryderu mai’r bobol oedrannus a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell sy’n mynd i gael eu heffeithio fwyaf gan benderfyniad Barclays.

“Dw i’n credu bod y bobol sy’n gwneud y penderfyniadau hyn ddim yn sylweddoli bod lot o bobol ddim ag opsiwn arall [o ran bancio],” meddai.

“Mae lot o bobol mewn oedran ddim yn gyfarwydd â defnyddio cyfrifiaduron a ddim yn gallu bancio ar-lein.

“Mae’r rheiny yn mynd i gael ergyd mawr.”