Mae bws o Oman wedi taro arwydd wrth adael prif ffordd yn Dubai, gan ladd 17 o bobol.

Roedd o leiaf 12 o Indiaid ymysg y meirw ac fe allai’r nifer hwnnw gynyddu, yn ôl swyddogion.

Yn ôl heddlu Dubai roedd pobol o leiaf tair gwlad wahanol yn rhan o’r ddamwain.