Mae angen i Gymru a’r diwylliant Cymraeg “wneud mwy” gyda chenhedloedd eraill y byd, yn ôl darpar Archdderwydd Cymru.
Fe fydd Myrddin ap Dafydd yn dechrau ar ei dymor yn Archdderwydd Cymru yn ei ardal enedigol yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy ym mis Awst.
Dywed y bardd o Lanrwst fod y swydd am fod yn un “lawen iawn”, wrth iddo ddisgwyl dathlu camp a chyfraniad unigolion tuag at “Gymru a’r diwylliant”.
Ond mae hefyd yn teimlo bod yna “gyfrifoldeb” yn cyd-fynd â’r swydd, ac y bydd angen iddo “edrych ar beth sy’n digwydd ac i dynnu sylw at ffordd i ddeilio â rhai o’r bygythiadau sy’n ein hwynebu ni”.
Yn rhan o hynny mae Myrddin ap Dafydd yn gobeithio sicrhau bod yr Orsedd yn ehangu ei hymwneud â diwylliannau eraill, gan ddilyn esiampl mudiadau fel Urdd Gobaith Cymru.
Croesawu diwylliannau eraill
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n hanfodol yng Nghymru, ar hyn o bryd, i beidio â chael ein gweld fel gwlad neu ddiwylliant sydd am ynysu ei hun oddi wrth weddill y gwledydd a chenhedloedd y byd,” meddai Myrddin ap Dafydd wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl y dylem ni fanteisio ar bob cyfle posib i feithrin dolennau, i gefnogi gwledydd eraill, ac i dderbyn ac i’w croesawu nhwythau at ein diwylliant ninnau.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n amser i ni wneud mwy efo mwy o wledydd nag yr ydan ni wedi bod yn ei wneud yn y gorffennol.”
Myrddin ap Dafydd fydd Archdderwydd Cymru am y cyfnod 2019-22.