Mae gwaith celf yn null Banksy wedi ymddangos ar wal yng Nghasllwchwr ger Abertawe.
Yn dilyn ymddangosiad murlun gan Banksy yn seiliedig ar weithfeydd dur Port Talbot, fe fu trigolion lleol yn dyfalu ar wefannau cymdeithasol fod yr artist wedi dychwelyd i Gymru ar gyfer ei ddarn diweddaraf.
Mae’r murlun wedi ymddangos ar groesffordd ger golchdy Ritchie’s, ond mae’r busnes yno’n dweud mai artist lleol, Mons, sydd wedi creu’r gwaith.
“Credwch chi fi, nid un Banksy yw hwn,” meddai’r golchdy wrth golwg360. “Byddai’r wal wedi diflannu erbyn hyn os mai un Bansky oedd e!
“Gwaith Mons oedd hwn, mae’n debyg.”
Mons
Roedd Mons yn y newyddion ym mis Chwefror, ar ôl i’w waith gael ei ddwyn o arhosfan bws yn Fforest-fach, Abertawe.
Roedd y darlun o Theresa May, oedd yn darlunio ymgais Boris Johnson i’w disodli’n arweinydd y Ceidwadwyr, wedi’i baentio ar ffenest yr arhosfan ac wedi cael ei gamgymryd am waith Banksy.
Daeth cadarnhad yn ddiweddarach nad Banksy oedd yr arlunydd, ond Mons, sydd wedi’i ysbrydoli ganddo.
Ac mae’n ymddangos mai’r un artist sydd wedi bod wrthi yng Nghasllwchwr y tro hwn hefyd.