Mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i adfywio adeiladau a thir diffaith o fewn cymunedau.

Eu hawgrym yw cael awdurdodau lleol i ddefnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol er mwyn gwella’r cymunedau drwy brynu adeiladau a thir adfeiliedig.

Yn ôl y pwyllgor mae modd i gynghorau ddefnyddio’r pwerau yn ystod y gwaith adfywio trefi er mwyn dod â rhain yn ôl yn fyw.

Mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad clir i’r cynghorau sut i ddefnyddio’r Gorchymyn Prynu Gorfodol.

“Gweld ein trefi yn ffynnu”

Ar hyn o bryd mae cynghorau yn dewis peidio dilyn y broses oherwydd ofnau am gostau uchel a brwydr gyfreithiol, yn ôl y Pwyllgor.

“Rydym i gyd eisiau gweld ein trefi yn ffynnu,” meddai’r Aelod Cynulliad Russell George, Cadeirydd y Pwyllgor .

“Ond pan mae Gorchmynion Prynu Gorfodol yn cael eu defnyddio’n gywir,” meddai, “maen nhw’n gallu cael effaith sylweddol ar waith cynghorau i gyflawni’r uchelgais yma.

“Mae ein Pwyllgor wedi edrych ar y broses o ddefnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol, ac rydym o’r farn y gall Llywodraeth Cymru wneud y broses yn haws ac yn fwy effeithlon, gan helpu awdurdodau lleol i ddefnyddio’r pwerau er budd cymunedau ledled Cymru,” meddai Russell George.