Mae dyn 75 oed wedi cael ei arestio a’i ryddhau dan ymchwiliad yn dilyn gwrthdrawiad sydd wedi gadael bachgen 11 oed mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.

Fe ddigwyddodd am 8.30 fore ddoe (dydd Mawrth) ar yr A4067 rhwng Pontardawe a Glais.

Bu’n rhaid cau’r ffordd i’r ddau gyfeiriad am nifer o oriau wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad