Fe ddaeth protestwyr tros ddemocratiaeth yn Hong Kong at ei gilydd 30 mlynedd ers digwyddiadau Sgwâr Tiananmen, i ddathlu gwrthdystiadau 1989.

Hong Kong ydi’r unig ranbarth dan reolaeth Beijing sydd wedi cynnal digwyddiadau i gofio am y modd y daeth myfyrwyr allan i’r strydoedd i alw am newid i’r drefn wleidyddol.

Fe gafodd cannoedd – os nad miloedd – o fyfyrwyr a’u cefnogwyr eu lladd yn ystod y protestiadau ar Fehefin 3 a 4, 1989 ac fe ddiflannodd eraill.

Roedd yna arwyddocad arbennig eleni i’r wylnos flynyddol sy’n cael ei chynnal ym Mharc Victoria, ac fe ddaeth rhai degau o filoedd o bobol ynghyd i gynnal canhwyllau.

Fe gynhaliwyd munud o dawelwch, ac fe berfformiwyd cerddoriaeth draddodiadol gydag offerynnau llinynnol.