Daeth ail fuddugoliaeth y penwythnos i Gymru yn erbyn Iwerddon ar y caeau rygbi wrth i’r Gweilch gipio buddugoliaeth dda oddi cartref ym Munster nos Sadwrn. Roedd hi’n gêm agos tu hwnt ond y Cymry a orchfygodd o 17-14 gan rwbio’r halen ym mriw’r Gwyddelod.
Hawdd deall nad oedd selogion Parc Thomond mewn hwyliau rhy dda cyn y gêm oherwydd y canlyniad yn Seland Newydd yn gynharach yn y dydd ond fu dim rhaid iddynt aros yn hir am rywbeth i godi eu calonnau.
Y Cais Cyntaf
Dim ond dau funud oedd wedi’i chwarae pan sgoriodd Munster gais cyntaf y gêm diolch i’r canolwr, Danny Barnes. Cic hir lawr y cae gan Doug Howlett a orfododd asgellwr y Gweilch, Hanno Dirksen i gicio o’i linell bump ei hunan, ond roedd yn rhy araf a chafodd ei gic ei tharo i’r llawr gan Barnes cyn iddo gasglu’r bêl a thirio o dan y pyst. Trodd y 5 yn 7 diolch i drosiad Ian Keatley.
Daeth pwyntiau cyntaf y Gweilch 5 munud yn ddiweddarach wrth i Dan Biggar gicio tri phwynt yn dilyn trosedd yn y sgrym gan Munster. Ond tro’r Gweilch i droseddu yn y sgrym oedd hi wedi chwarter awr o chwarae a thro Keatley i gicio’r tri phwynt. Tarodd Keatley a Biggar y postyn gyda chic gosb yr un yn fuan wedi hynny a’r sgôr yn aros yn 10-3 o blaid Munster wedi chwarter cyntaf y gêm.
Treuliodd y Gweilch amser maith yn agos at linell Munster yn yr ail chwarter ond hynny heb droi eu goruchafiaeth yn gais. Ond roedd un sgôr arall ar ôl yn yr hanner wrth i Biggar drosi cic gosb gyda chic olaf yr hanner yn dilyn trosedd yn y sgrym gan Munster.
Cardiau Melyn
Parhau i droseddu yn y sgrym a wnaeth y Gwyddelod ar ddechrau’r ail hanner a thalodd y prop, Stephen Archer y pris trwy gael ei anfon i’r gell gosb. Llwyddodd Biggar gyda chynnig at y pyst er mwyn cau’r bwlch i 10-9.
Wedi 52 munud roedd Justin Tipuric wedi ymuno ag Archer yn y gell gallio yn dilyn tacl beryglus, ac yn fuan wedyn roedd Keatley wedi ychwanegu tri phwynt at fantais y Gwyddelod.
Dri munud yn ddiweddarach roedd Munster yn edrych yn sicr o sgorio cyn i gefnwr y Gweilch, Barry Davies ryngipio’r bêl a rhedeg 70 metr gyda hi cyn dadlwytho i Richard Fussell a basiodd yn ei dro i’r mewnwr, Rhys Webb a orffennodd symudiad gwych. Methodd Biggar y trosiad ond roedd y Gweilch ar y blaen am y tro cyntaf, 14-10.
Diweddglo Agos
Llwyddodd Keatley gyda chic gosb cyn i Biggar a Davies fethu gyda dwy ymgais am gôl adlam felly dim ond pwynt oedd ynddi gyda 20 munud yn weddill.
Treuliodd Munster ran helaeth o’r amser hwnnw yn pwyso ar linell y Gweilch ond roedd amddiffyn y rhanbarth o Gymru yn adleisio amddiffyn y tîm cenedlaethol hanner diwrnod ynghynt. Yna, o’r diwedd cafodd y bêl ei dwyn yn y ryc a chiciodd Biggar er mwyn clirio’r perygl.
A Biggar gafodd air olaf y gêm wedi i drosedd arall yn y sgrym gan Munster roi cic gosb i’r Gweilch yn eiliadau olaf yr wyth deg munud. Llwyddodd Biggar gyda chic olaf y gêm gan ymestyn y fantais i 17-13 ar y chwib olaf.
Roedd y canlyniad yn ddigon i gadw’r Gweilch ar frig y tabl gan ymestyn eu mantais dros Munster yn yr ail safle i chwe phwynt. Canlyniad da iawn i’r Gweilch felly, a pherfformiad da yn enwedig gan y blaenwr a oedd rhy gryf i Munster yn y sgrymiau gosod. “O’n i’n meddwl fod y bois yn wych, roedden ni’n disgwyl prawf anodd yma, roedd rhaid i ni’r blaenwyr godi’n gêm ac fe wnaethon ni hynny,” meddai capten y Gweilch, Justin Tipuric.
Gwilym Dwyfor Parry