Mewn gêm fratiog ddi fflach yn Stadiwm Marston’s roedd angen rhywbeth arbennig i ennill y tri phwynt a dyna’n union a gafwyd gan Mark Connally i’r Bala yn gêm fyw Uwchgynghrair Cymru brynhawn Sadwrn.
Ond roedd hi’n anodd gweld Bala neu Lido Afan yn ennill y gêm ar yr egwyl yn dilyn hanner cyntaf hynod siomedig. Roedd hi’n gêm agored o’r dechrau’n deg gyda’r chwarae’n symud o un pen i’r cae i’r llall yn y deg munud cyntaf. Ond ychydig iawn o basio cywir a welwyd a llai fyth o gyfleoedd da yn y 45 munud cyntaf.
Wedi dweud hynny, gallai’r Bala fod wedi mynd ar y blaen wedi dim ond 2 funud. Daeth Mark Jones o hyd i Stephen Brown yn y cwrt cosbi gyda phêl dda, daeth Chris Curtis, golwr Lido Afan, allan am y bêl ond pasiodd Brown hi ar draws y cwrt chwech i Lee Mason ond tarodd ei ergyd ef yn erbyn Carl Evans. Roedd awgrym fod Evans wedi defnyddio’i law ond wnaeth y Bala ddim cwyno gormod.
Yr unig gyffro arall yn chwarter cyntaf y gêm oedd gwaith da ond anarferol Terry McCormick yn y gôl i’r Bala wrth ddelio â phas yn ôl. Gwnaeth y golwr yn dda i reoli gyda’i frest cyn clirio gyda’i droed dan bwysau gan ymosodwr Afan Lido.
Yna, hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf daeth cyfle cyntaf y tîm cartref. Amddiffynnwyd cic gornel yn dda cyn i Leon Jeanne wrthymosod yn gyflym, pasiodd yn gywir i greu cyfle i Jonathan Hood ond gwastraffodd yntau’r cyfle wrth geisio troi a phasio gyda’i droed dde yn hytrach na chymryd yr ergyd gynnar gyda’i droed chwith.
Mynd yn fwyfwy bratiog a wnaeth y chwarae wrth i’r hanner fynd yn ei flaen ond y tîm cartref a orffennodd yr hanner gryfaf gyda Jeanne a Daniel Sheehan yn cael digon o’r bêl ar ochr dde’r cae. Crëwyd un cyfle i Hood yn y canol ond roedd ei beniad rhydd ef yn wan.
Hanner cyntaf digon diflas felly. Digon o giciau cornel ond dim llawer o safon na chyfleoedd gan y naill dîm na’r llall.
Ail Hanner Dipyn Gwell
Digwyddodd mwy yn neg munud cyntaf yr ail hanner na’r hanner cyntaf i gyd, gyda Hood yn taro’r trawst i Lido wedi 3 munud yn unig. Pas dda Jeanne ddaeth o hyd iddo ar ochr dde’r blwch cosbi a phenderfynodd ergydio yn hytrach na chroesi o ongl dynn.
Mae’n rhaid bod hynny wedi deffro’r Bala achos o fewn 2 funud roedd rhediad twyllodrus Mark Jones wedi ennill cic rydd o 25 llath i’r ymwelwyr. Connally gymerodd y gic gan ei chrymanu’n berffaith i gornel uchaf y rhwyd. Mae’r chwaraewr canol cae wedi sgorio ambell gôl arbennig y tymor hwn yn barod ond efallai mai hon oedd yr orau eto a doedd gan Curtis yn y gôl i Lido ddim gobaith.
Roedd Connally yn ei chanol hi eto ychydig funudau’n ddiweddarach, ei bas hir yn dod o hyd i Mason wrth i’r Bala wrthymosod ond y blaenwr yn gwneud smonach llwyr o’r hanner cyfle. Roedd Connally yn anlwcus gyda pheniad o gic rydd Stuart Jones wedi 67 munud hefyd.
Tarodd Afan Lido y postyn gyda chwarter awr yn weddill. Llwyddodd Adam Orme i droi’n dda a phasio i’r eilydd Mark Jones wrth y postyn cyntaf ond taro yn erbyn y postyn hwnnw a wnaeth ei ymdrech yntau.
Doedd Lido Afan ddim yn edrych fel eu bod am sgorio trwy gydol y gêm mewn gwirionedd ond eto, llwyddasant i greu diweddglo dramatig wrth roi pwysau ar gôl y Bala yn yr eiliadau olaf. Ond llwyddodd McCormick ac amddiffyn y Bala i glirio’r bêl yn y diwedd cyn i’r dyfarnwr ddod i’r adwy gyda’r chwiban olaf.
Rhediad gwael y Bala yn dod i ben a’r tîm o Wynedd yn parhau yn y pumed safle yn y tabl, ond problemau Lido Afan o flaen gôl yn parhau a’r tîm o Bort Talbot yn aros yn hanner gwaelod y tabl yn yr wythfed safle.
Gwilym Dwyfor Parry