Ceri Sweeney
Daeth rhediad gwael y Gleision yn y RaboDirect Pro12 i ben gyda buddugoliaeth o 37 -26 yn yr Eidal heddiw.
Roedd y tîm o Gaerdydd wedi colli tair o’r bron yn y gynghrair cyn teithio i Stadio Zaffanella i wynebu Aironi y prynhawn yma. A bydd y Gleision yn dychwelyd i Gymru nid yn unig gyda buddugoliaeth ond gyda phwynt bonws hefyd.
Aironi aeth ar y blaen yn gynnar yn y gêm gyda chais i’r asgellwr Sinoti Sinoti wedi dim ond dau funud o chwarae. Ond doedd hi ddim yn hir cyn i’r Gleision daro’n ôl diolch i gais y canolwr Dafydd Hewitt. Yr unig wahaniaeth rhwng y ddau dîm oedd trosiad Sweeny ar ôl i Naas Oliver fethu gyda throsiad Aironi.
Ychwanegodd Sweeny ac Oliver gic gosb yr un er mwyn ei gwneud hi’n 10-8 o blaid yr ymwelwyr hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf. Cafwyd tri phwynt arall gan Sweeny cyn i Chris Czekai sgorio ail gais y Gleision mewn hanner awr cyntaf byrlymus. Ychwanegodd Sweeny y ddau bwynt er mwyn ei gwneud hi’n 20-8.
Llwyddodd Oliver gyda chic ychydig cyn yr egwyl er mwyn lleihau mantais y Cymry i 9 pwynt ond methodd un gic gosb hefyd cyn hynny.
Roedd Aironi yn ôl yn y gêm yn fuan yn yr ail hanner yn dilyn cais gan yr wythwr profiadol Nick Williams. Ond taro’n ôl yn syth a wnaeth y Gleision unwaith eto wrth i wythwr profiadol arall o Seland Newydd, Xavier Rush groesi am gais i’r ymwelwyr. Ac fel yn yr hanner cyntaf yr unig wahaniaeth rhwng y ddau dîm oedd cicio llwyddiannus Sweeny – cais Williams yn werth 5 pwynt ond cynnig Rush yn werth 7, 27-16 y sgôr felly hanner ffordd trwy’r ail hanner.
Aironi sgoriodd y ddau gais nesaf diolch i’r canolwr, Gilberto Pavan a Nick Williams unwaith eto, gan sicrhau pwynt bonws o leiaf. Ond yn anhygoel methodd Aironi y ddau drosiad yma hefyd, Tito Tebaldi gyda’r cyntaf ac yna Oliver unwaith yn rhagor. Roedd digon o amser rhwng y ddau gais i Sweeny lwyddo gyda chic gosb at y pyst ac felly roedd y Gleision yn parhau i fod ar y blaen o 30-26 gyda 5 munud ar ôl.
Daeth pwynt bonws i’r Gleision hefyd wrth iddyn nhw sicrhau’r fuddugoliaeth gyda symudiad olaf y gêm, ail gais i Czekai a seithfed gic lwyddiannus i Sweeny, a gwedd ychydig mwy cyfforddus ar y sgôr wrth iddi orffen yn 37-26.
Gêm llawn cyffro a cheisiadau yn y Stadio Zaffanella felly ond does dim dwywaith mai’r gwahaniaeth rhwng y ddau dîm oedd cicio’r ddau faswr at y pyst. Ond fydd y Gleision ddim yn poeni’n ormodol am hynny gan fod y fuddugoliaeth yn ddigon i’w codi i’r trydydd safle yn y tabl.
Gwilym Dwyfor Parry