Roedd hi’n gêm gyntaf drychinebus i hyfforddwr newydd Casnewydd, Justin Edinburgh yn Southport heddiw, wrth i’w dîm golli o 3-0 yn y gêm yng nghyngres y Blue Square.

Cafwyd dechrau addawol gyda chyfle cynnar i Nat Jarvis yn y munud cyntaf un ond saethodd yn wan yn syth at y golwr. Wedi hynny daeth yr ymwelwyr i mewn i’r gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, a diflannodd holl hyder y tîm cartref.

A fu dim rhaid i Southport aros yn hir am eu gôl gyntaf wrth i Simon Grand benio’r bêl heibio i Thompson i gefn y rhwyd. A daeth dwy gôl arall yn fuan wedyn gydag amddiffyn Casnewydd ar chwâl. Cafwyd sgiliau da gan Tony Gray ar yr asgell wedi 40 munud cyn iddo groesi’n gywir tuag at y postyn pellaf ble yr oedd Karl Ledsham yn aros i benio’n gywir yn ôl ar draws y gôl.

Yna ym munud olaf yr hanner rwbiwyd halen yn y briw i Justin Edinburgh gyda thrydedd gôl Southport. Method y golwr, Thompson ag ymdopi â thafliad hir ac roedd Gray wrth law i rwydo i’r tîm o Lannau Merswy.

Hanner cyntaf erchyll i Justin Edinburgh felly a’r unig gysur yn yr ail hanner oedd na ychwanegodd Southport at y sgôr. Yn wir, gêm ddiflas oedd hi wedi’r egwyl gyda’r tîm cartref wedi rhoi’r ffidl yn y to a’r ymwelwyr yn hapus gyda thair gôl a thri phwynt.

Cafodd Craig McAllister gyfle am gôl gysur hwyr i Gasnewydd ond methu fu ei hanes ac roedd y cefnogwyr cartref wedi gweld hen ddigon ym mhell cyn y chwiban olaf. Mae gan Edinburgh ddigon o waith o’i flaen felly gyda Chasnewydd yn parhau i fod un safle o waelod y tabl.