Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi canmol tîm rygbi Cymru am eu camp yn cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd.

“Bydd Cymru i gyd yn dathlu ac yn cefnogi’r chwaraewyr wrth iddyn nhw ymgeisio i wneud hanes gan gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf,” meddai.

“Beth bynnag sy’n digwydd o hyn allan, mae wedi bod yn gryn gamp ac yn ymdrech wych gan y chwaraewyr a’r staff hyfforddi i gyd,” meddai’r Prif Weinidog prynhawn ma.