Mae dynes o Gaerdydd wedi paentio cerddi Cymraeg ar ei thŷ er mwyn magu perthynas fwy clos â’i chymdogion.
Ers dwy flynedd bellach, mae Sianed James wedi bod yn paentio cerddi a murluniau ar wal ei chartref yn Pearl Street.
Mae’r stryd honno yn rhedeg ar hyd ffin Adamsdown a’r Sblot – ardaloedd cymharol ddi-gymraeg – a hyd yma mae cerddi gan Mererid Hopwood a T Gwynn Jones wedi’u paentio ganddi.
Mae cymdogion yn aml yn ddieithr i’w gilydd yn y ddinas, meddai, ac mae’n dweud bod paentio’r mur yn ffordd dda o fynd i’r afael â hynny.
“Pan dw i’n paentio’r wal dw i’n sgwrsio gyda fy nghymdogion,” meddai wrth golwg360.
“Mewn dinas fel Caerdydd dw i ddim yn cwrdd â fy nghymdogion [yn aml].
“Mae siarad gyda phobol sy’n byw yn fan hyn yn beth lovely. Ac mae pob un wedi dweud eu bod yn hoffi’r wal. Maen nhw’n dweud eu bod yn edrych ymlaen at weld beth fydda i’n ei wneud nesa’.”
Mae Sianed James yn annog pobol i bostio argymhellion o bethau iddi baentio trwy ei blwch post – ac mae rhai wedi gwneud hynny, meddai. Mae’r mur hefyd yn destun blog.
Y sbardun cyntaf
Dechreuodd baentio’r wal yn 2017 pan gychwynnodd British Rail weithio ar Heol y Sblot, ac wedi i oleuadau traffig gael eu gosod ger ei thŷ.
Roedd disgwyl i’r gwaith bara am flwyddyn, ac roedd ceir yn aml yn gorfod aros ger ei wal er mwyn i’r goleuadau droi’n wyrdd. Dyma sbardunodd Sianed James yn wreiddiol.
“Ar y pryd roeddwn yn meddwl i’n hun: ‘Beth am roi rhywbeth ar y wal iddyn nhw edrych arno pan maen nhw’n aros wrth y goleuadau traffig.’” meddai.
Erbyn hyn mae cerddi mewn sawl iaith wedi’u paentio ar y mur, ac mae Sianed James yn esbonio’r rheswm tu ôl hynny.
“Dw i eisiau defnyddio ieithoedd gwahanol,” meddai. “Dw i wedi paentio pethau Cymraeg, Gwyddeleg, Ffrangeg ac Arabeg.
“[Dw i’n gwneud hyn] achos bod pobol o bob rhan o’r byd yn byw yn Sblot.”