“Mae radio lleol wedi newid,” meddai darlledwr adnabyddus sydd wedi penderfynu gadael y byd radio wedi bron i chwarter canrif.
Fe ail-ymunodd Andrew ‘Tommo’ Thomas â radio lleol wedi iddo fod yn cyflwyno rhaglen y prynhawn ar BBC Radio Cymru am gyfnod o bedair blynedd.
Ond wedi ychydig dros flwyddyn yn y swydd, mae’r gŵr o Aberteifi wedi gadael Nation Broadcasting, lle’r oedd yn gyfrifol am bum rhaglen a oedd yn cael eu darlledu yn siroedd y gorllewin ac ardaloedd Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr.
Yn ôl y dyn ei hun, mae bellach wedi mynd ar ei liwt ei hun fel cyflwynydd a diddanwr, a’i fod wedi cymryd y cam hwnnw ar ôl i Nation Broadcasting benderfynu cau’r orsaf radio yn Arberth, Sir Benfro, a bwriadu symud ei raglenni i’r orsaf ganolog yn Saint Hilari ger y Bontfaen.
“Ar ôl iddyn nhw siarad â fi a dweud wrtha i eu bod nhw’n cau Arberth i lawr, doedden nhw ddim yn disgwyl i fi drafaelu’r holl ffordd [i Saint Hilari],” meddai Tommo wrth golwg360.
“Gofynnon nhw i fi os o’n i mo’yn neud e, ond fe ddwedes i ‘na’, i ddweud y gwir… Mae mab bach gyda fi sy’n naw oed a dw i’n byw yn ardal Aberteifi, felly do’n i ddim eisiau trafaelu yr holl ffordd.”
Radio lleol wedi newid “er gwaeth”
Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa, a gychwynnodd yn Radio Ceredigion ynghanol yr 1990au, mae Tommo yn credu bod radio lleol wedi newid “er gwaeth” dros y blynyddoedd, wrth i gwmnïau mawr brynu gorsafoedd radio llai a chanoli’r cyfan mewn un orsaf.
“Mae cyflwynwyr sydd â phersonoliaeth nawr yn thing of the past,” meddai.
“Mae yna tua 250 o gyflwynwyr yn colli swyddi dros y Deyrnas Unedig nawr, achos bod cwmnïau mawr yn cymryd drosto ac yn cael un person i gyflwyno obeutu deg rhaglen, yn lle cael deg person i gyflwyno deg rhaglen.”
Mae’n ychwanegu y bydd colli’r orsaf yn Arberth yn “golled” i siroedd y gorllewin, ond mae’n cydnabod bod patrymau gwrando yn newid.
“Mae’r ffordd mae pobol yn gwrando ar radio wedi newid, efallai. Dw i wedi ei weld e o’r dechre pan ddechreues i ar Radio Ceredigion yn 1995. Roedd newid deng mlynedd ar ôl hynny a newid eto.
“Mae pethe yn newid, ond mae’n drueni.”