Daeth rhediad siomedig y Scarlets i ben mewn steil heno wrth iddynt drechu Caeredin o 33-17 ar Barc y Scarlets.

Ond gallai hi fod wedi bod yn stori wahanol pe bai eu capten, Gareth Maule heb ddioddef anaf wrth gynhesu cyn y gêm. Bu rhaid i Adam Warren ddechrau’r gêm yn ei le ar fyr rybudd a chreodd y canolwr ifanc gryn argraff gan sgorio dau gais mewn perfformiad a enillodd iddo wobr seren y gêm.

Dechrau braidd yn fratiog oedd i’r gêm gyda’r olwyr yn dewis cicio yn hytrach na chario’r bêl yn y glaw. Ond aeth y Scarlets ar y blaen wedi 11 munud wedi i Gaeredin ildio cic gosb am drosedd yn ardal y dacl. Cic dda gan Aled Thomas o 48 metr yn rhoi’r Scarlets ar y blaen, 3-0.

Roedd y tîm o Lanelli wedi ymestyn eu mantais i 10 pwynt 5 munud yn ddiweddarach yn dilyn camgymeriad gan Faswr Caeredin, Gregor Hunter. Ciciodd y bêl yn syth yn erbyn Aled Thomas ac roedd Warren wrth law i orffen yn daclus gyda chic tuag at y llinell cyn codi’r bêl a thirio.

Yr Albanwyr yn Taro’n ôl

Ychwanegodd Aled Thomas dri phwynt arall o bellter i’r Scarlets cyn i Gaeredin ddechrau taro’n ôl. Cic gosb gan y capten, Greig Laidlaw oedd eu pwyntiau cyntaf cyn i’r asgellwr o’r Iseldiroedd, Tim Visser ychwanegu cais. Methodd y Scarlets ag amddiffyn yn ddigon da o linell yn dilyn cic dda Jim Thompson a buan iawn yr oedd Visser drosodd yn y gornel. Llwyddodd Laidlaw gyda’r trosiad anodd ac roedd yr Albanwyr yn ôl yn y gêm ar yr hanner, 13-10 i’r Scarlets.

Er i Aled Thomas gicio’n hyderus at y pyst yn yr hanner cyntaf methodd gyda’i ymdrech gyntaf wedi’r egwyl. Ond fu dim rhaid i dîm tre’r sosban aros yn hir i ymestyn eu mantais wrth i Warren sgorio’i ail gais wedi 47 munud. Dwynodd y Scarlets bêl Caeredin mewn sgrym yn hanner eu hunain a gwrthymosododd yr olwyr yn effeithiol gyda Rhodri Gomer Davies yn torri’r llinell fantais i ddechrau cyn i Warren orffen y symudiad. Methodd Aled Thomas y trosiad.

Manteisio yn Erbyn 14 Dyn

Anfonwyd canolwr yr ymwelwyr, John Houston i’r gell gosb am ddwyn y bêl yn anghyfreithlon mewn ryc a manteisiodd y Scarlets yn llawn ar hynny. Cafwyd cyfnod hir o bwyso yn erbyn 14 dyn Caeredin cyn i Adam Warren ddod yn agos at ei hatric. Cael ei atal fodfeddi o’r llinell oedd hanes Warren ond roedd y blaenasgellwr, Richie Pugh wrth law i dirio. Methodd Aled Thomas gic eto felly roedd Caeredin dal o fewn gafael gyda’r sgôr yn 23-10.

Roeddent yn sicr o fewn gafael munudau yn ddiweddarach wedi i’r asgellwr, Lee Jones sgorio cais unigol gwych o ddim byd. Daliodd gic uchel cyn gwrthymosod yn drydanol. Ychwanegodd Laidlaw’r ddau bwynt ac roedd yr ymwelwyr o fewn un sgôr unwaith eto.

Ond noson y Scarlets oedd hi i fod wrth i Aled Thomas ail ddarganfod ei esgidiau cicio a llwyddo gyda chic gosb er mwyn rhoi’r Scarlets ar y blaen o 26-17 gyda 10 munud yn weddill.

Pwynt Bonws

A rhoddwyd yr eisin ar y gacen gyda 7 munud yn weddill wrth i’r Scarlets gipio’r pwynt bonws. Cafwyd gwaith da gan yr olwyr i ennill tir cyn i’r blaenwr Rhys Thomas fanteisio a gyrru’n rymus dros y llinell. Llwyddodd Aled Thomas gyda’r trosiad er mwyn ei gwneud hi’n 33-17, ac felly y gorffennodd hi.

Perfformiad calonogol iawn i Nigel Davies, hyfforddwr y Scarlets felly yn dilyn rhediad mor wael yn y gynghrair yn ddiweddar: “Dw i wedi bod yn hapus iawn gyda’r brwdfrydedd mae’r bechgyn wedi’i ddangos yn ddiweddar ac roeddem yn gwybod y byddai’r canlyniad yn dod yn y pen draw os oedden ni’n gweithio’n galed. Roedd llawer o bwysau ar ein chwaraewyr ifanc heno ond fe wnaethon nhw’n dda.”

Ychydig o’r pwysau’n codi oddi ar ysgwyddau’r Scarlets felly a’r pwynt bonws yn ddigon i’w codi i’r chweched safle yn y tabl hefyd.

Gwilym Dwyfor Parry