Jason Tovey
Eu diffyg disgyblaeth oedd prif elyn y Dreigiau yn Firhill nos Wener wrth iddynt golli yn erbyn Glasgow o 24-19.

Roedd y Dreigiau ar y blaen ar yr egwyl ond rhaid fydd iddynt ddychwelyd i Gymru gyda dim ond pwynt bonws am eu trafferth wedi i faswr Glasgow, Duncan Weir lwyddo gydag wyth cic gosb yn eu herbyn.

Er i Weir roi’r tîm cartref ar y blaen yn gynnar gyda’i gic gyntaf roedd y Dreigiau ar y blaen yn fuan wedyn diolch i gais y cefnwr, Martyn Thomas. Torrodd Mike Poole y llinell fantais cyn pasio i Thomas a wibiodd dros y llinell i sgorio unig gais y gêm. Ychwanegodd Mathew Jones y trosiad ac yna tri phwynt arall o gic gosb er mwyn rhoi’r Dreigiau saith pwynt ar y blaen.

Roedd Glasgow yn ôl o fewn pwynt yn dilyn dwy gic gosb lwyddiannus arall gan Weir cyn i Thomas ymestyn mantais y Dreigiau drachefn gyda dwy gic gosb i’w dîm yntau. Parhaodd y sioe gicio wrth i Weir ychwanegu un fach arall cyn yr egwyl er mwyn dod â’i dîm yn ôl o fewn pedwar pwynt, 16-12 o blaid y Dreigiau ar hanner amser.

Ychwanegodd Weir bedair cic arall yn yr ail hanner gan orffen y gêm gyda record ddilychwin o wyth cic allan o wyth, perfformiad sydd yn record i giciwr yn y Pro12. Doedd gan y Dreigiau ddim hyd yn oed pwynt bonws felly gydag ychydig funudau o’r gêm ar ôl ond yn ffodus i’r rhanbarth o Gymru hwy gafodd y gair olaf. Roedd Jason Tovey wedi dod i’r maes fel eilydd am Jones a llwyddodd ef gyda chic gosb hwyr i sicrhau nad oedd y Cymry’n gadael yn waglaw.

Y pwynt bonws yn rhywbeth i godi calon y Dreigiau felly ond byddant yn siomedig â’r canlyniad gan gofio eu bod ar y blaen ar yr hanner. Maent yn parhau yn ddegfed yn y tabl a bydd rhaid i’w blaenwyr ildio llai o giciau cosb yn ardal y dacl yn eu gemau nesaf os ydynt yn bwriadu codi oddi yno.