Cododd Cymru oddi ar waelod grŵp G i’r pedwerydd safle heno, diolch i fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Swistir yn Stadiwm Liberty. Ni all tîm Ottmar Hitzfeld symud ymlaen i Bencampwriaethau Ewro 2012 bellach ac yn wir gall Cymru orffen yn drydydd yn y grŵp gyda buddugoliaeth arall yn erbyn Bwlgaria nos Fawrth.

Roedd y Swistir angen ennill y gêm hon ac roedd hynny’n amlwg yn y pum munud cyntaf wrth i’r ymwelwyr ddechrau’n gryf. Ond dim ond un tîm oedd yn y gêm wedi hynny a Chymru oedd hwnnw. Daeth y cyfle cyntaf i Darcy Blake wedi 8 munud ond peniodd heibio’r postyn o groesiad da Bellamy.

Er nad oedd y Swistir yn cynnig llawer yn y chwarae agored mi roedden nhw’n edrych yn beryglus ar brydiau o giciau gosod. Ond yn dilyn un o’r ciciau rhydd hynny llwyddodd Cymru i wrthymosod yn diolch i rediad Bale ar yr asgell dde. Daeth o hyd i Ramsey yn y bocs ond methodd yntau â sodli’r bêl i Bellamy a oedd yn gwbl rydd ar ochr chwith y cwrt cosbi.

Daeth cyfle gorau’r hanner i un o chwaraewyr disgleiriaf Cymru ar y noson, Steve Morrison, wedi 37 munud. Pas hir o’r cefn gan Blake yn cael ei rheoli’n gampus gan ymosodwr Norwich, yna’i ail gyffyrddiad â’i droed dde yn un celfydd er mwyn creu lle ar gyfer yr ergyd gyda’r droed chwith ond Benaglio yn y gôl i’r Swistir yn arbed yn dda.

Roedd y Swistir yn ceisio’i gorau i chwarae’r gêm yn hanner Cymru ond pur anaml yr oedden nhw’n llwyddo i fynd heibio canol cae ac roedd cyflymder ymosodwyr Cymru wrth wrthymosod yn ddraenen yn eu hystlys. Roedd Bale yng nghanol un o’r gwrthymosodiadau hynny funudau cyn yr egwyl ond penderfynodd fynd ei hun er bod Bellamy mewn llathenni o le unwaith eto a gwnaeth Valon Behrami yn dda i’w atal.

Roedd Bale yn wych yn yr hanner cyntaf ond roedd awgrym o anaf yn dilyn sialens Behrami a doedd dim sicrwydd y byddai’n dychwelyd i’r cae wedi’r egwyl.Ond er mawr ryddhad i gefnogwyr Cymru fe wnaeth Bale ail ymddangos yn yr ail hanner gan chwarae yn well fyth.

Chwarter awr llawn cyffro

Roedd chwarter awr agoriadol yr ail hanner yn llawn cyffro gyda’r Swistir yn rhoi’r bêl yn y rhwyd o fewn 4 munud. Adlamodd cic rydd Shagiri oddi ar ysgwydd Derdiyok heibio i Hennessey ond roedd blaenwr yr ymwelwyr yn camsefyll yn ôl y dyfarnwr cynorthwyol. Dihangfa i Gymru felly ond wedi dweud hynny gallai’r tîm cartref fod wedi cael tair cic o’r smotyn yn y 10 munud canlynol.

I ddechrau, cafodd Bale ei lorio yn hollol amlwg gan Behrami ond ddim yn ddigon amlwg i’r dyfarnwr. Yna derbyniodd Ziegler gerdyn coch am dacl wael ar Gunter. Chwipiodd Bale’r bêl i’r bocs o’r gic rydd ganlynol ac roedd Cymru yn holi am gic o’r smotyn arall wrth i Blake gael ei wthio yn y cwrt chwech. Ond tri chynnig i Gymro, a chafodd Cymru eu cic o’r smotyn wedi awr o chwarae.

Daeth Crofts o hyd i Gunter yn y bocs gyda phas dda, roedd cyffyrddiad cyntaf amddiffynnwr Nottingham Forest yn rhy dda i Klose a bu rhaid i amddiffynnwr Y Swistir ei faglu er mwyn ei atal. Cymerodd y capten, Aaron Ramsey, y gic gan ei sleifio hi’n ffodus braidd o dan gorff Benaglio. Ffodus ai peidio, roedd Cymru ar y blaen yn erbyn 10 dyn y Swistir ac yn edrych yn hynod gyfforddus.

Pethau’n tawelu ychydig

Tawelodd y gêm am ryw 10 munud yn dilyn y gôl er i Morrison fethu cyfle euraidd â’i ben yn ystod y cyfnod hwnnw. Ond Morrison oedd i’w ddiolch am yr ail gôl dyngedfennol wedi 70 munud. Gwaith da’r blaenwr roddodd y cyfle i Bale tu ôl i amddiffyn y Swistir a chymerodd yntau ei gyfle yn hyderus gan orffen yn daclus gyda’i droed chwith. 2-0 ac roedd y gêm drosodd.

Creodd rhediad Bale gyfle i Bellamy yn fuan wedyn ond ergyd wan a gafwyd ganddo. Gallai Cymru fod wedi cael cic o’r smotyn arall hefyd pan adlamodd y bêl oddi ar ben glin Klose yn erbyn ei law ond barnu mai damweiniol oedd y llawiad a wnaeth y dyfarnwr. Cafwyd rhediad da gan Morrison lawr yr asgell chwith hefyd ond methu â dod o hyd i Bellamy yn y canol oedd ei hanes.

Cynigodd y Swistir ychydig bach mwy tuag at ddiwedd y gêm; gallant fod wedi cael cic o’r smotyn pan darodd y bêl law’r eilydd, David Vaughan, yn y bocs a tharodd Behrami y postyn gydag ymdrech hwyr ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi a Chymru yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth.

Ymateb

“Roedd o’n berfformiad da i ennill y gêm… a gobeithio y gallwn ni barhau i adeiladu ar hyn yn erbyn Bwlgaria nos Fawrth,”  meddai Aaron Ramsey wedi’r gêm. Ac adleisio’i gapten a wnaeth seren y gêm, Gareth Bale, “Dwi’n meddwl fod y fuddugoliaeth yn erbyn Montenegro wedi rhoi hwb i bawb yn enwedig y cefnogwyr, a nawr rydym yn chwarae gyda llawer mwy o hyder.”

A gyda’r hyder hwnnw does dim rheswm pam na all tîm Gary Speed orffen yn drydydd yn y grŵp yma ac edrych ymlaen yn eiddgar at gemau rhagbrofol Cwpan y Byd, 2014.

Gwilym Dwyfor Parry