Ai dwylo'r Cymry fydd yn dal y Gwpan hon?
Cymru: 22 Iwerddon: 10
Mae’r dreigiau ifanc wedi ei gwneud hi!
Ac mae cyfle olaf capten Iwerddon, Brian O’Driscoll, i gyrraedd yr uchelfannau yng nghwpan Rygbi’r Byd wedi diflannu yng nghanol y gwynt a oedd yn chwyrlio o amgylch y stadiwm yn Wellington.
Mewn gornest gofiadwy, Cymru wnaeth drechu ar faes y gad. Roedd y penderfyniad i’w weld yn amlwg ar wynebau pob un o’r tîm, wrth i’r Crysau Cochion roi perfformiad caboledig yn yr ail hanner i sicrhau’r fuddugoliaeth roedden nhw’n eu haeddu.
Er eu bod nhw wedi gadael y Gwyddelod i reoli am gyfnodau hir yn yr hanner gyntaf, chafodd y Crysau gwyrddion ddim y cyfle i reoli yn yr ail hanner. A phan sgoriodd Jonathan Davies trydydd cais Cymru ar ôl 64 munud, roedd y Cymry are eu ffordd i fuddugoliaeth gofiadwy.
Am y tro cyntaf ers 24 mlynedd, mae Cymru wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd. Pa ots pwy fydd eu gwrthwynebwyr? Maen nhw wedi dangos heddiw eu bod nhw’n awchu i gael eu dwylo ar y Gwpan.
Maen nhw’n barod. Maen nhw’n benderfynol, ac mae mwy i ddod gan y Cymry ifanc sydd wedi gwneud gymaint o argraff yn y gystadleuaeth hon.