Cymru: 10 Iwerddon : 3
Mae’r freuddwyd dal yn fyw!
Mi gafodd Cymru ddechrau gwych i’r ornest fawr yng Nghwpan Rygbi’r Byd gyda’r dewin Shane Williams yn sgorio a dim ond dwy funud a hanner o’r gêm wedi mynd. Roedd Rhys Priestland yn llwyddiannus gyda’r trosiad, a Chymru ar y blaen, 10 pwynt i ddim.
Ond, ers hynny, mae’r Cymry wedi bod yn amddiffyn, amddiffyn, amddiffyn, ac yn gwrthod ildio i’r ton o grysau gwyrdd oedd yn benderfynol o groesi’r lein.
Mi lwyddodd Ronan O’Gara gyda chic gosb ar ôl 24 munud o chwarae. Ond ar waetha’r holl bwysau, ni chafodd y Gwyddelod y cais oedden nhw’n chwilio amdano.
Mae Cymru felly ar y blaen ar hanner amser a chalonnau’n curo’n gyflym ar draws y wlad wrth i’r posibilrwydd o guro’r Gwyddelod ddechrau edrych fel ffaith i’w fwynhau.